Y MabLaoptorv IrPlaat Llyfr 1 RHAGAIR. DyLAI plant bach Cymru wybod am storiau prydferth p.lentyndod cenedl y Cymry. Profwyd gan y rhai a'u hadroddodd yn yr ysgolion fod plant yn hoff iawn ohonynt, a bod y storiau hyn yn ennyn eu diddordeb yn lien ac iaith ein gwlad. Cael y plant i ddarllen y storiau yw amcan y gyfres hon. PWYLL AC ARAWN YN GYFARFOD. Llawer o flynyddoedd yn ôl, yr oedd pendefig o'r enw Pwyll yn byw yn Nyfed. Yr oedd Pwyll yn horí iawn o hela. Yn wir, dyna oedd ei bleser pennaf, ac yr oedd ganddo lawer iawn o gwn hela o bob math. Un diwrnod, pan oedd yn hela yng Nglyn Cuch, dilynodd ei gwn mor bell i'r coed f el y collodd ei gyfeillion; a phan oedd wrtho'i hun gyda'i gwn, gwelodd Pwyll gwn eraill yn hela carw ac yn dod tuag ato. Gwelsai lawer o gwn ihela o'r blaen, ond y rhain oedd y rhyfeddaf ohonynt oil. Yr oedd eu cyrff yn wyn a'u clustiau'n goch, ac yr oedd y lliwiau'n disgleirio yn yr haul. Fel yr edrychai, lladdwyd y carw, a gyrrodd Pwyll y cwn dieithr i ťfwrdd, a galwodd ei gwn ei hun at y carw. Ar hyn, dyma farchog yn dod ar ei geffyl tuag at Bwyll. "Ha," meddai'r marchog, "gwn pwy wyt, ond ni chyfarchaf di." "Paham hynny?" gofynnodd Pwyll. "Am na welais erioed mwy o ťai ar ddyn nag anfon y cwn a laddodd y carw i ŕíwrdd, a galw dy gwn dy hun ato." 5 P W Y L L PENDEFIG D Y F E D "Os gwneuthum gam ä thi," meddai Pwyll, pa beth a allaf fi ei wneud er mwyn prynu dy faddeuant?" "Wel," meddai, "Arawn yw f y enw, ac yr wyf yn frenin yn Annwn. Y mae yn Annwn frenin arall o'r enw Hafgan; y mae'n elyn mawr iawn i mi, ac ond i ti ei ladd, ni a fyddwn yn gyfeillion." "Dywed imi'r ŕfordd, ac mi a'i lladdaf," meddai Pwyll. "Rhaid i ti gymryd f y Íle yn f y ngwlad yn Annwn am flwyddyn; drwy fy hud newidiaf dy wedd fel na bo un dyn yn gwybod nad Arawn wyt, a rhaid i ti ymladd ä Hafgan am fy nheyrnas." "Ym mha f odd y caf wybod pa bryd y ewrddaf ag ef?" "Blwyddyn i heno, rhaid i ti gwrdd ag ef wrth y rhyd; dyro un ergyd iddo, ac er iddo of yn am un arall, rhaid i tí wrthod, neu fe fydd yn ymladd cystal ä chynt," meddai Arawn. "Beth a ddaw o'm teyrnas fy hun?" "Newidiaf fy fíurf innau ľth ffurf di, ac af i Ddyfed yn dy le." Aeth Arawn i Ddyfed a Phwyll i Annwn, ac ymhen y flwyddyn cyfarfu Pwyll ä Hafgan ar y rhyd, ac ymladdodd y ddau hyd nes i Bwyll roi ergyd i Hafgan, ac er iddo ofyn am ergyd arall, ni roddodd Pwyll un iddo. A bu farw Hafgan ac fe'i cariwyd ef i ffwrdd. P W Y L L PENDEFIG D Y F E D Trannoeth cyfarfu Pwyll ac Arawn yng Nglyn Čuch, yn y fan Íle'r ymadawsant ä'i gilydd flwyddyn yn ôl, a chroesawu'r naill y Hall a wnaethant, ac aethant yn gyfeillion mawr. Aeth y ddau i'w teyrnasoedd,—Pwyll i Ddyfed ac Arawn i Annwn. Anfonodd Arawn emau, hebogau, a moch i Bwyll am iddo waredu ei wlad rhag Hafgan, a dyna'r modd y daeth moch gyntaf i Ddyfed. 8 PWYLL A RHIANNON. Un diwrnod, pan oedd Pwyll yn cynnal ei lys yn Arberth, aeth ef a'i wýr am dro nes iddynt ddod i dwyn a elwid Gorsedd Arberth. "Arglwydd," meddai un o'r gwýr, "y mae rhyw-beth rhyfedd iawn yn perthyn ťr twyn hwn. Pan eisteddo gwr o urddas arno, fe ddigwydd un o ddau beth iddo,—naill ai fe'i clwyfir yn dost neu ťe wél ryfeddod." "Nid oes ofn arnaf gael fy nghlwyfo," atebodd Pwyll, "a hofífwn yn fawr weled rhyfeddod." Yna eisteddodd ar yr orsedd, a thra'r oedd yno gwelodd foneddiges ar gefn ceffyl mawr gwyn yn dod yn araf tuag ato. Yr oedd ganddi wisg o aur disglair amdani, ac yr oedd ei hwyneb wedi ei guddio ä lien hir wen. "Fy ngwýr," meddai Pwyll, "a oes un oihonoch yn adnabod y foneddiges acw?" "Nac oes, arglwydd," oedd eu hateb. "Aed un ohonoch i gyfarfod ä hi, a gofyn iddi pwy yw hi." Aeth un o'r gwýr tuag ati ar unwaith, ond pan oedd ef ar gyfarfod ä hi, yr oedd wedi mynd heibio iddo. 9 \ f P W Y L L P ENDEFIG D Y F E D Aeth ar ei hôl ar draed cyn gynted ag y medrai, ond er cyflymed y rhedai, ni fedrai ddod yn nes ati. Yna aeth yn ôl at Bwyll, a dywedodd, "Ni fedr neb ar draed ei dal, arglwydd." Atebodd Pwyll, "Cymer y ceffyl cyflymaf yn y llys a dos eto ar ei hôl." Cymerwyd y ceffyl a gyrrwyd ef ar ei hôl, ac aeth yn gyflym iawn, ond eto, pellaf i gyd oedd y foneddiges oddi wrtho. "Mae hyn yn rhyfedd iawn," meddai Pwyll, "awn tua'r llys." Aŕ yr ail ddiwrnod, ebe Pwyll wrth ei wýr, "Dewch á1 r ceffyl cyflymaf yn y maes gyda chwi, ac awn i'r man Íle buom ddoe." Wedi cyrraedd y fan, eisteddodd Pwyll ar yr orsédd a dyma'r un foneddiges, ar yr un ceffyl gwyn, a'r un wisg o aur disglair amdani, yn dyfod yr un mor araf tuag ato. Meddai Pwyll wrth un o'i weision, "Bydd barod i wybod pwy yw hi." Yna, pan ddaeth y foneddiges yn nes atynt, esgynnodd un o'r gwýr ar y ceffyl; ond bron cyn iddo eistedd ar y cyfrwy, yr oedd y foneddiges wedi mynd heibio iddo, ac yr oedd ym'hell bell o'i gyrraedd, er ei bod fel petai'n cerdded yr un mor araf. Er gadael i'w geffyl garlamu, nid oedd ddim yn nes ati nag o'r 10 PWYLL PENDEFIG DYFED blaen. Gwelodd Pwyll mai ofer oedd ei chanlyn, ac aeth ef a'i wyr yn 61 i'r llys. Meddyliodd Pwyll yn sicr fod rhyw neges gan y foneddiges i rywun, a phenderfynodd geisio unwaith eto wybod pwy oedd hi. Y trydydd tro, aeth gyda'r un gwyr eto i'r orsedd, ac yn y man, dyma'r un foneddiges ar yr un cefTyl gwyn, ac yn gwisgo'r un wisg o aur disglair amdani, .yn dyfod yr un mor araf tuag ato. "Dygwch fy ngheffyl i mi," meddai Pwyll, ond cyn iddo esgyn ar ei geffyl, yr oedd hi wedi mynd heibio iddo. Aeth ar ei hoi, a phan welodd nad oedd ddim yn nes ati, meddai ef, "Ha forwyn, er mwyn y gwr a geri fwyaf, aros i mi." "Gwnaf yn Ilawen," atebodd y foneddiges. "Buasai'n well i'th farch pe buasit wedi gofyn yn gynt." "Arglwyddes," meddai Pwyll, "o ba wlad y daethost, a beth yw dy neges yma?" "Rhiannon, merch Hyfeidd Hen, ydwyf," atebodd y foneddiges; "mae fy nhad am i mi briodi gwr nad wyf yn ei garu, ac ni allaf wneud hynny am fy mod yn dy garu di gymaint; ac i wybod a wyt ti yn fy ngharu i y deuthum yma." Cododd y lien oddi ar ei hwyneb, ac wrth edrych arni, meddyliodd Pwyll mai hi oedd y brydferthaf o'r 12 PWYLL A RHIANNON holl forynion a welsai erioed, ac atebodd, "Pe cawn ddewis o holl forynion y byd, tydi a ddewiswn." "Os gwir hynny," meddai Rhiannon, "tyrd flwyddyn i heno, i lys fy nhad, lie y cynhelir gwledd i'th groesawu." Yna ymadael a'i gilydd a wnaethant,—Pwyll i'w lys, a Rhiannon i dy ei thad. Ar ben y flwyddyn aeth Pwyll a chant o'i wyr i lys Hyfeidd Hen, a chawsant groeso cynnes. Yr oedd gwledd fawr yno, ac eisteddodd Pwyll rhwng Rhiannon a'i thad. Tra'r elai'r wledd yn ei blaen, i mewn i'r neuadd daeth gwr tal, bonheddig yr olwg, mewn gwisg sidan, a chroesawodd Pwyll ef gan ddywedyd, "Dos i eistedd ac ymuna a ni yn y wledd." "Na wnaf," eb ef, "dod yma i ofyn ffafr gennyt a wneuthum, ac ni allaf eistedd gyda thi nes cael fy nymuniad." "Pa ffafr bynnag a ofynni, ti a'i cei os gallaf ei rhoddi," meddai Pwyll. "O ! paham yr atebaist felly?" meddai Rhiannon. "Beth yw'r ffafr yr wyt yn ei cheisio?" gofynnodd Pwyll i'r dyn dieithr. "Y forwyn a garaf fwyaf yw Rhiannon, ac yr wyf yn ei cheisio gennyt i fod yn wraig i mi," meddai. 13 P W Y L L P E N D E F I G D Y F E D Distewi a wnaeth Pwyll, oherwydd nid oedd ganddo ateb i'w roddi. "Hwn yw Gwawl," meddai Rhiannon, "y ceisir gennyf ei briodi. Dyro ň iddo yn awr a gwnaf gynllun fel na chair? eť fyth mohonof yn wraig iddo. "Pa fodd y gall hynny fod?" goťynnai Pwyll. "Rhoddaf i'th law god fechan, a rhaid ,i ti ddod á hi gyda thi i lys fy nhad flwyddyn i heno. Bydd gwledd fawr yma pryd y disgwylir imi ei briodi ef. Pan fydd y wledd ar ei hanner, tyred dithau i'r neuadd mewn carpiau ä'r god fechan gennyt, a gofyn yn unig ani ei Hond o fwyd. Paraf finnau, pe rhoddid ynddi gymaint o fwyd. ag y sydd yn yr holi wlad, na fydd yn llawnach nag ar y cyntaf." Aeth y flwyddyn heibio, a daeth Gwawl i'r wledd a ddarparwyd iddo yn llys Hyfeidd Hen. Fel y trefn-wyd, daeth Pwyll mewn carpiau gyda'i wýr i'r coed gerllaw, a'i god fechan ganddo. Pan ddeallodd fod y wledd wedi dechrau, aeth tuag at y llys ac i mewn i'r neuadd. Cyfarchodd y gwýr a'r boneddigesau a oedd yno, a dywedodd Gwawl wrtho, "Beth bynnag a ofynni, os bydd yn rhesymol, ti a'i cei yn llawen." "Yr unig beth a ofynnaf yw Hond y god fechan yma o fwyd," oedd ateb Pwyll. 14 PWYLL A RHIANNON "Cais eithaf rhesymol yw hwnnw," meddai Gwawl. "Dygwch iddo yr hyn y mae'n ei geisio." Yna cododd nifer o'r gwýr a dechreuwyd llenwi'r god, ond er bwrw llawer iddi, nid oedd ddim llawnach nag o'r blaen. "Fy ngwrda," gofynnodd Gwawl, "a fydd dy god fyth yn 11awn?" . "Na fydd," meddai Pwyll, "hyd nes y gwasgo gvVr ■cyfoethog urddasol y bwyd iddi ä'i ddau droed a dywedyd, 'Digon a roddwyd yma.' " Dywedodd Rhiannon wrth Wawl, "Cyfod a dyro dy droed yn y god." Gwnaeth Gwawl hyn, ac ar unwaith trodd Pwyll y god fel y cuddiwyd Gwawl ynddi. Canodd Pwyll ei gorn i alw ei wýr, ac yna rhuthro a wnaethant a rhoddi gwýr Gwawl yng ngharchar. Tynnodd Pwyll y carpiau oddi amdano, a phan ddeuai ei wýr i'r llys, taro'r god a wnaeth bob un, naill ai ä'i droed neu ä'i ffon, a gofyn, "Beth sydd yma?" ac ateb "Broch." Felly chwarae a wnaethant ä'r god a gofyn, "Pa chwarae yw hwn?" "Broch yng nghod," atebent. A dyma'r pryd y chwaraewyd "Broch yng nghod" gyntaf. Wedi dioddef am beth amser, dywedodd Gwawl, "Arglwydd, nid wyf yn haeddu fy nghuro mewn cod, fel hyn." 15 P W y L L PENDEFIG D y F E D "Gwir yw hynny," meddai Hyfeidd Hen. Yna dywedodd Rhiannon wrth Bwyll, "Yn awr fe ddylit roddi pa ffafr bynnag a ofyn ef gennyt, ond cyn ei ollwng yn rhydd, pár iddo wneuthur cytundeb ä thi, fei na ddialo fyth arnat am yr hyn a ddioddefodd heddiw." Wedi i Wawl addo i Bwyll na ddialai byth arno, gadawyd Gwawl yn rhydd, ef a'i wýr, ac aethant yn ôl i'w gwlad. Wedi hyn trefnwyd gwledd fawr yn llys Hyfeidd Hen, a'r diwrnod hwnnw priodwyd Pwyll a Rhiannon. Trannoeth dywedodd Rhiannon wrth Bwyll, "Dechreua dalu'r beirdd a'r cerddorion. Paid ä gwrthod dim a ofynnir gennyt heddiw." Yna gwahoddodd Pwyll bawb a ddymunai ffafrau ganddo. ^.eth a'r cerddorion a'r beirdd i mewn, a rhoddodd i bob un yr hyn a geisiai. Ar ddiwedd y wledd, dywedodd Pwyll wrth Hyfeidd Hen, "Os wyt yn fodlon, awn i Ddyfed yfory." Ac aeth Pwyll a Rhiannon i Ddyfed. Trefnwyd gwledd i'w croesawu, ac aethant yn ehwog trwy'r holi dir. Daeth gwýr urddasol y deyrnas i ymweld ä hwynt, a rhoddwyd iddynt bob un anťheg ddrud, naill ai breichled, modrwy, neu faen gwerthfawr. 16 GENI'R MAB. Bu Pwyll a Rhiannon fyw'n hapus yn Nyfed, ac ymhen amser ganwyd mab bychan i Riannon. Y noson y ganwyd y baban, dewiswyd chwech o wragedd i ofalu am Riannon a'r mab. Cysgodd Rhiannon, a gadawyd y gwragedd i wylio'r crud, Íle cysgaľr baban yn esmwyth. Cyn hanner nos, cysgodd pob un ohonynt, ond tua'r bore dyma hwy'n deffro. Y peth cyntaf a wnaethant oedd edrych am y mab, ond er chwilio, ni allent ei weld yn unman. "Och," gwaeddodd un o'r gwragedd, "ťe gollwyd y mab." "Beth !" meddai un arall, "fe'n cosbir yn drwm am hyn." "A allwn ni wneuthur rhywbeth?" gofynnai'r drydedd. "Dywedwn fod Rhiannon wedi ei ladd," meddai un arall, a chytunodd y lleill i ddywedyd hyn. Pan ddeffrôdd Rhiannon, gofynnodd, "Ble mae fy mab?" "Arglwyddes," meddent hwy, "nid oes angen gofyn i ni am dy fab, a thithau'n gwybod dy fod wedi ei ladd." 17 P W Y L L PENDEFIG D Y F E D "Ha, wragedd," meddai Rhiannon, "yr Arglwydd Dduw a wyr bob peth. Na ddywedwch anwiredd amdanaf; ac os ofn sydd arnoch, mi a'ch amddiííyn-naf. Ond ni wrandawai'r gwragedd ar gais Rhiannon. Pan glywodd y boblfod y baban ar goll, aethant yn ddicllon iawn, gan gredu bod Rhiannon wedi lladd ei mab ei hun, a daeth y gwyrda i gyd at Bwyll i ofyn iddo am ddanfon Rhiannon i ŕŕwrdd ymhell, a pheidio ä'i gweld mwy. Ond nid oedd Pwyll yn fodlon i hyn, a dywedodd, "Os yw f y ngwraig wedi gwneuthur drwg, gadewch iddi gymryd y gosb amdano." Yna galwodd Rhiannon athrawon a doethion ati i ofyn help ganddynt, ond yn ofer. Parhaodd y gwragedd i ddywedyd mai hi a laddodd y mab, a gwell ganddi oedd cymryd y gosb na dadlau ä'r gwragedd. A dyma'r gosb : yr oedd yn rhaid iddi fod yn y llys yn Arberťh am saith mlynedd. Wrth y porth yr oedd esgynfaen, ac yr oedd yn rhaid iddi eistedd ger llaw hwnnw bob dydd, ac adrodd yr hanes wrth bawb a ddelai yno, a chynnig cario pob ymwelwr ar ei dhefn i'r llys. 18 A dymaV gosb: oedd yr\ rhaid ídcU eisťedd ťu cllan i V llv» y n ArhertH ana scxiťh mlynedd. PRYDERI. Pan eisteddai Rhiannon wrth yr esgynfaen, yr oedd yh byw mewn rhan arall o'r wlad arglwydd o'r enw Teyrnion. Yr oedd gan hwn gaseg brydferth iawn; nid oedd ei thebyg yn y wlad i gyd. Bob nos Calan Mai, deuai'r gaseg ag ebol bach, ond diflannai'r ebol y noson y ganwyd ef, ac ni wyddai neb beth a ddeuai ohono. ■ Un noson yr oedd Teyrnion a'i wraig yn eistedd gyda'i gil-ydd, a dywedodd Teyrnion wrth ei wraig, "Yr ydym yn frol dros ben ein bod yn colli'n hebolion i gyd, heb wybod beth sy'n digwydd iddynt. ' "Beth a wnawn?" meddai hithau. ■ "Nos Calan Mai yw heno, a pheth bynnag a ddigwydd nid wyf i'n mynd i aros rhagor heb wybod beth sy'n digwydd i'r ebolion," atebodd Teyrnion. Y noson honno dywedodd wrth ei weision am roddi'r gaseg mewn ystabl; gwisgodd yntau ei arfau, ac aeth i wylio, i gael gweld beth a ddigwyddai. Tua hanner nos, daerh y gaseg a'r ebol bach harddaf a welsai erioed. Tra'r oedd Teyrnion yn edrych ar yr ebol, clywodd swn mawr, a chyda hyn, dyma bawen yn dyfod drwy'r 20 PRYDERI ffenestr, ac yn cydio yn yr ebol wrth ei fwng, ond ar unwaith dyma Teyrnion yn tynnu allan ei gleddyf ac yn torri ymaifh y bawen, ac fe'i gadawyd ar 61 yn dal yn dynn ym mwng yr ebol. Clywodd Teyrnion y swn mawr eto, a rhedodd i edrych beth oedd yno, ond yr oedd yn rhy dywyll iddo weld dim. Cofiodd yn sydyn ei fod wedi gadael y drws yn agored, a rhedodd yn 61 ar unwaith. Wrth y drws, er ei syndod, gwelai faban bach prydferth iawn wedi ei rwymo mewn gwisg sidan hardd. Cododd Teyrnion y bachgen bach a'i gario ef i'r ty. "Wraig," meddai, "a wyt ti'n cysgu?" Atebodd hithau, "Nac ydwyf, arglwydd; cysgais, ond pan ddaethost ti i mewn, dihunais." Wedyn dywedodd Teyrnion, "Y mae gennyf fab i ti," ac adroddodd wrthi beth a ddigwyddodd. "Pa wisg sydd am y baban?" gofynnai ei wraig. "Gwisg o sidan," oedd yr ateb. "Rhaid mai mab i ddynion bonheddig yw, felly," meddai hithau, ac fe benderfynodd y ddau gadw'r mab bychan a'i alw Gwri Walk Aur, am fod ganddo wallt prydferth iawn, mor felyn a'r aur. Magwyd ef yn y llys hyd nes oedd yn flwydd oed, ac erbyn hyn yr oedd yn cerdded yn gryf, ac yr oedd yn fwy o faint na phlentyn teirblwydd. 21 PWYLL PENDEFIG D Y F E D Yn yr ail flwyddyn yr oedd gymaint ä phlentyn chwe blwydd oed, ac erbyn ei fod yn bedair oed, wel! yr oedd yn hofř iawn o geŕíylau, a cheisiai gan y gweision adael iddo arwain y ceffylau ľr dwr. Un diwrnod, goŕynnodd ei wraig i Deyrnion, "Ble mae'r ebol a gefaist yr un noson ä'r bachgen; a gawn ni ei roddi'n anrheg i Wri?" "Ie," meddai Teyrnion, "peth da fyddai hynny," ac felly cafodd Gwri yr ebol. Yr amser hyn daeth nifer o ymwelwyr i'r llys, a chlywodd Teyrnion am y cam yr oedd Rhiannon yn ei ddioddef. Pan glywodd, yr oedd yn ddrwg iawn ganddo, ac wedi i'r ymwelwyr ymadael ä'r llys, meddyliodd lawer am gosb Rhiannon. Un diwrnod, pan yn gwylio Gwri'n chwarae, daeth i'w feddwl yn sydyn fod y bachgen yn debyg i Bwyll, gwr Rhiannon, canys gwelsai Bwyll yn ami y n y dyddiau a fu; ac wrth feddwl am y rnodd y cafodd Wri ar nos Calan Mai, cryfhaodd y syniad mai mab coli Rhiannon oedd y bachgen. Dywedodd Teyrnion ei feddwl wrth ei wraig : "Oni fyddai'n well i mi," meddai ef, "ei ddwyn yn ôl i lys Pwyll?" "Byddai," meddai ei wraig, "a chawn dri pheth am hynny : diolch gan Riannon am gymryd ei phoen oddi arni, diolch gan Bwyll am fagu ei fachgen, ac yn 22 P R Y D E R I drydydd, os tyf y bachgen yn ddyn da, fe fydd yn garedig i ni." Ac felly drannoeth, cymerodd Teyrnion y mab, a chydag ef ddau farchog, a daeth i Ddyfed, i Arberth, Ue'r oedd llys Pwyll. Pan ddaethant i ymyl y llys, gwelsant Riannon yn eistedd wrth yr esgynfaen, a phan ddaethant yn agos ati, dywedodd hithau hanes ei chosb wrthynt a chynigiodd eu dwyn i'r plas ar ei chef n, ond ni chawsai hi wneu.thur hynny ganddynt hwy. Yr oedd Pwyll yn llawen iawn o'u gweld, ac aeth ä hwynt i'r neuadd fawr. Yn y wledd a oedd yn dilyn, eisteddodd Teyrnion rhwng Pwyll a Rhiannon, ac eisteddodd Gwri rhwng y ddau farchog a ddaeth i Ddyfed gyda hwy. Wedi gorífen bwyta, adroddodd Teyrnion hanes yr ebol a'r mab. Dywedodd sut y daeth o hyd iddo, a sut y i magwyd, ac fel y credai ef a'i wraig mai mab Pwyll a Rhiannon ydoedd. "Os gwir hyn," meddai Rhiannon, "y mae amser fy mhryder i ar ben." "Da yr enwaist dy fab," meddai Pwyll, "Pryderi fydd ei enw," ac felly newidiwyd ei enw a'i alw'n Pryderi. Diolchodd Pwyll i Deyrnion gan ddywedyd, "Y nefoedd a dalo i ti am ofalu am y mab." 23 pwyll pendefig dyfed "Fy ngwraig a'i magodd," atebodd Teyrnion, "ac ni fydd neb yn fwy prudd na hi o'i golli. Cofied ef beth a wnaeth hi drosto." "Tra byddwyf i byw," meddai Pwyll, "mi a'th gynhaliaf, a phan fyddaf farw, fe wna Pryderi hynny." Aeth Teyrnion a'i farchogion yn 61 i'w gwlad, ond cyn iddo fyned, cynigiodd Pwyll iddo'r tlysau tecaf, y meiroh harddaf, a'r cwn prydferthaf yn Nyfed, ond ni chymerai ef ddim, am ei fod yn caru Pryderi fel mab ac nid oedd arno eisiau täl am ei fagu. Bu Pwyll yn bendefig ar Ddyfed am flynyddoedd lawer, ac fe'i carwyd gan ei bobl. Tyfodd Pryderi, ei fab, yn wr ieuanc hardd a dewr. Ef oedd yr harddaf a'r dewraf yn y deyrnas, a phriododd Gigfa, ferch Gwyn Gohoyw; ac ar 61 dyddiau ei dad, ef a fu'n teyrnasu yn Nyfed. 24 Adventurers from Wales by Beryl M. Jones First Book: 1. The Legend of Prince Madog. 2. A Welsh Exile. 3. A Soldier of Fortune. Second Book: 4. Galley Slave of the Armada. 5. The Dream of Cambriol. 6. Expedition against the Corsairs. Third Book: 7. In Search of a North-West Passage. 8. The Squire who wore the White Cockade. Fourth Book: 9. Prince of Buccaneers. 10. The Captain 'Beau' of the Pirates. 11. With Captain Cook on his Last Voyage. Fifth Book: 12. Adventure up the Missouri. 13. The Good Mariner of the South Sea. 14. In the 'Land of Giants.' * These tales are based upon the most stirring episodes in the lives of famous Welsh adventurers who have played their part in the realms of discovery colonisation, and exploration.